Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Gorffennaf 2014 i'w hateb ar 8 Gorffennaf 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae'r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ(4)1792(FM)

 

2. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar weithredoedd Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy? OAQ(4)1794(FM)W

 

3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gaffael yn y sector cyhoeddus? OAQ(4)1785(FM)W

 

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau canser yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1774(FM)

 

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch hawliau cynllunio mewn perthynas ag ynni? OAQ(4)1787(FM)W

 

6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar reoli'r rhwydwaith cefnffyrdd yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)1784(FM)

 

7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa baragraffau penodol o'r Cod Gweinidogol y mae'n ystyried y cafodd eu torri gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd? OAQ(4)1789(FM)

 

8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwerau prynu gorfodol yng Nghymru? OAQ(4)1790(FM)

 

9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau? OAQ(4)1793(FM)

 

10. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gynlluniau arfaethedig i gyfyngu ar drafnidiaeth a chau ffyrdd yn sgil yr uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd? OAQ(4)1783(FM)

 

11. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gostau ynni i ddiwydiant yng Nghymru? OAQ(4)1782(FM)

 

12. Sandy Mewies (Delyn): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(4)1788(FM)

 

13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar berfformiad ariannol y GIG yng Nghymru? OAQ(4)1777(FM)

 

14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ymgysylltiad pobl ifanc â gwleidyddiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1791(FM)

 

15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran cyrraedd y targedau allweddol ar gyfer iechyd yn y Rhaglen Lywodraethu OAQ(4)1779(FM)